Obadeia

Obadiah

1Gweledigaeth Obadeia.

Dyma beth mae'r Meistr, yr Arglwydd, wedi ei ddweud am Edom.
1:1 Edom Roedd pobl Edom yn ddisgynyddion i Esau, brawd Jacob
Cawson ni neges gan yr Arglwydd, pan gafodd negesydd ei anfon i'r gwledydd, yn dweud, “Codwch! Gadewch i ni fynd i ryfel yn ei herbyn!”

Bydd Duw yn cosbi Edom b

2Mae'r Arglwydd yn dweud wrth Edom
1:2 Mae'r … Edom Ddim yn yr Hebraeg, ond wedi eu hychwanegu i wneud y sefyllfa'n glir (gw. diwedd adn.4)
:
“Dw i'n mynd i dy wneud di'n wlad fach wan;
byddan nhw'n cael cymaint o hwyl ar dy ben.
3Mae dy falchder wedi dy dwyllo di!
Ti'n byw yn saff yng nghysgod y graig,
ac mae dy gartre mor uchel nes dy fod yn meddwl,
‘Fydd neb yn gallu fy nhynnu i lawr o'r fan yma!’
1:3 Ti'n byw yn saff … o'r fan yma! Roedd Sela, prifddinas Edom wedi ei hadeiladu ar lwyfandir uchel Wm el-Biara, gyda clogwyni serth ar dair ochr iddi.

4Ond hyd yn oed petaet ti'n gallu codi mor uchel â'r eryr,
a gosod dy nyth yng nghanol y sêr,
bydda i'n dy dynnu di i lawr!” e

—yr Arglwydd sy'n dweud hyn.
5“Petai lladron yn dod atat ti,
neu ysbeilwyr yn y nos,
bydden nhw ond yn dwyn beth roedden nhw eisiau!
Petai casglwyr grawnwin yn dod atat ti,
oni fydden nhw'n gadael rhywbeth i'w loffa? f
Ond byddi di'n cael dy ddinistrio'n llwyr!
6Bydd pobl Esau
1:6 pobl Esau Disgynyddion Esau (brawd Jacob) oedd pobl Edom – gw. Genesis 36:1,8,19
yn colli popeth;
bydd y trysorau gasglon nhw wedi eu dwyn!
7Mae dy gynghrheiriaid wedi dy dwyllo;
cei dy yrru at dy ffiniau.
Mae dy ‛helpwyr‛ wedi cael y llaw uchaf arnat ti,
a'r ‛ffrindiau‛ oedd yn gwledda gyda ti
wedi gosod trap heb i ti wybod.”
8“Bryd hynny” meddai'r Arglwydd,
“bydda i'n difa rhai doeth Edom,
a bydd y deallus yn diflannu o fynydd Esau.
9Bydd dy filwyr dewr wedi dychryn, Teman;
1:9 Teman Tref bwysig yng ngogledd Edom, wedi ei henwi ar ôl ŵyr i Esau – gw. Genesis 36:10-11.

fydd neb yn goroesi ar fynydd Esau.

Y drwg wnaeth Edom

O achos y lladdfa,
10a'th drais yn erbyn Jacob dy frawd,
1:10 Jacob Cyfeiriad at bobl Israel – gw. Genesis 25-29; 32-33; Deuteronomium 23:7

bydd cywilydd yn dy orchuddio,
a byddi'n cael dy ddinistrio am byth.
11Pan oeddet ti'n sefyll o'r neilltu
tra roedd dieithriaid yn dwyn ei heiddo;
pan oedd byddin estron yn mynd trwy ei giatiau
a gamblo am gyfoeth Jerwsalem,
doeddet ti ddim gwell nag un ohonyn nhw!
1:11 un ohonyn nhw sef byddin Babilon pan wnaethon nhw goncro Jerwsalem yn 587 CC

12Sut allet ti syllu a mwynhau'r
drychineb ddaeth i ran dy frawd?
Sut allet ti ddathlu wrth weld pobl Jwda
ar ddiwrnod eu difa? k
Sut allet ti chwerthin
ar ddiwrnod y dioddef?
13Sut allet ti fynd at giatiau fy mhobl
ar ddiwrnod eu trychineb?
Syllu a mwynhau eu trallod
ar ddiwrnod eu trychineb.
Sut allet ti ddwyn eu heiddo
ar ddiwrnod eu trychineb?
14Sut allet ti sefyll ar y groesffordd
ac ymosod ar y ffoaduriaid!
Sut allet ti eu rhoi yn llaw'r gelyn
ar ddiwrnod y dioddef?

Barn Duw a buddugoliaeth Israel

15Ydy, mae diwrnod yr Arglwydd yn agos,
a bydda i'n barnu'r cenhedloedd i gyd.
Byddi'n diodde beth wnest ti i eraill; l
cei dy dalu'n ôl am beth gafodd ei wneud.
16Fel y gwnaethoch chi yfed
ar y mynydd sydd wedi ei gysegru i mi,
bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed –
yfed nes byddan nhw'n chwil. m
Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli.
17Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc
– bydd yn lle cysegredig eto.
Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl
oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.
18Teulu Jacob
1:18 teulu Jacob sef, pobl Jwda
fydd y tân,
a theulu Joseff
1:18 teulu Joseff sef, pobl Israel
fydd y fflamau,
a theulu Esau fydd y bonion gwellt!
Byddan nhw'n eu llosgi a'u difa,
a fydd neb o deulu Esau ar ôl.”

—mae'r Arglwydd wedi dweud.
19Byddan nhw'n cipio'r Negef oddi ar bobl mynydd Esau,
a Seffela
1:19 Saffela Yr iseldir wrth droed y bryniau ar ffin orllewinol Jwda
oddi ar y Philistiaid.
Byddan nhw'n ennill yn ôl dir Effraim
a'r ardal o gwmpas Samaria,
a bydd pobl Benjamin yn meddiannu Gilead.
1:19 Gilead Yr ardal i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen. Felly mae adn.19 yn sôn am bobl Dduw yn Jerwsalem yn ennill yn ôl diriogaeth i'r de (Edom), gorllewin (Philistia), gogledd (Effraim) a dwyrain (Gilead).

20Bydd byddin o bobl Israel o'r gaethglud
yn adennill tir Canaan i fyny at Sareffath;
1:20 Sareffath Tref ar arfordir Môr y Canoldir, tua 10 milltir i'r de o Sidon.

a pobl Jerwsalem sydd yn Seffarad bell
yn meddiannu pentrefi'r Negef.
21Bydd y rhai gafodd eu hachub
yn mynd i Fynydd Seion
ac yn rheoli Edom –
a'r Arglwydd fydd yn teyrnasu.
Copyright information for CYM